Performance
Cystadlu dros Gymru
Amcan cyffredinol y rhaglen Gystadlu Ryngwladol yw paratoi athletwyr Cymru ar gyfer perfformio hyd eithaf eu gallu mewn Pencampwriaethau Mawr. Fel rhan o’r strategaeth honno, mae Athletau Cymru’n ymroddedig i ddarparu cyfleoedd cystadlu rhyngwladol yn yr holl ddisgyblaethau.
Categoreiddir cystadlaethau rhyngwladol fel un o’r canlynol:
-
Gornest Ryngwladol (pan fo tîm Cymreig wedi ei faesu mewn rhaglen gystadleuol yn erbyn timau eraill)
-
Rhaglen Ryngwladol Dramor neu Wladol y tymor (cystadleuaeth dramor neu wladol sy’n rhoi amgylchedd ffafriol i athletwyr Cymreig o’r safon briodol gael canlyniad da)
Er mwyn cael eu hystyried i gynrychioli Cymru, rhaid i’r athletwyr fodloni’r Meini Prawf Cymhwyso a nodir isod.
Trac a Maes
Loughborough International – Mai 19eg 2019 - Cymraeg
Safonau Dethol Gornest Ryngwladol (2015-19)
Rhedeg Ffordd
Cyfleoedd Rhedeg Ffordd Rhyngwladol - 2019
Safonau Dethol Rhedeg Ffordd Rhyngwladol
Ffurflen Lles – llenwch a’i e-bostio i Steve.jones@ws-aa.org
Ffurflen Cit Kukri – llenwch a’i e-bostio i Rhiannon@welshathletics.org
Meini Prawf Cymhwyso er mwyn cystadlu dros Gymru
Sail cymhwysedd:
1. Genedigaeth
2. Rhieni – angen i’r athletwr fynd drwy’r system gymhwyso er mwyn profi bod ganddo/ganddi riant o Gymru.
3. Preswyliad – 2 flynedd yn byw’n barhaol yng Nghymru. Mae angen i’r athletwr fynd drwy’r system gymhwyso er mwyn profi ei fod/ei bod wedi byw’n barhaol yng Nghymru am o leiaf 2 flynedd. Sylwer: mae angen i athletwyr sy’n dymuno cael eu hystyried ar gyfer Gemau’r Gymanwlad fod wedi byw’n barhaol yng Nghymru am o leiaf 5 mlynedd. Rhaid iddynt hwythau fynd drwy’r system gymhwyso.
4. Wedi cystadlu ar sail preswyliad yn y gorffennol – athletwyr sydd wedi cystadlu dros Gymru ar lefel uwch a mynd drwy’r broses gymhwyso ond sydd wedi symud o Gymru. (wedi mynd drwy’r broses gymhwyso ar sail preswyliad.) Sylwer: Ni ellir ystyried athletwyr sy’n cymhwyso yn y dull hwn ar gyfer Gemau’r Gymanwlad.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â jacqueline.brace@welshathletics.org
Dolenni diddorol
Tudalennau yn yr adran hon a allai fod o ddiddordeb.