Cymryd Rhan
Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Mae cais y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd UKA yn ffurflen ar-lein. Mae’r system yn ei gwneud yn haws i unigolion wneud cais am wiriad DBS ond hefyd yn ei gwneud yn fwy cyflym drwy symleiddio’r broses. Dilynwch y camau isod:
- Mewngofnodwch i Borth Aelodau Athletau Cymru. Os mai hwn yw’r tro cyntaf i chi wneud cais am drwydded hyfforddwr neu swyddog, bydd cyfrif wedi ei greu i chi pan oeddech chi’n gwneud cais i fynychu cwrs. Bydd eich rhif Cyfeirnod Unigryw (URN) yn y cadarnhad a anfonwyd i’ch cyfrif e-bost (hwn hefyd yw eich rhif AC / WA)
- Ar ôl i chi fewngofnodi fe welwch yr adran gyda’ch manylion personol. Ar waelod yr adran gyntaf dangosir statws presennol eich gwiriad DBS.
- Cliciwch ar y ddolen briodol er mwyn diweddaru statws eich gwiriad DBS. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin.
- Bydd angen i chi ddarparu tri darn o wybodaeth adnabod i’r unigolyn y byddwch yn ei ddewis fel gwiriwr. Bydd y broses ar-lein yn nodi pwy y gallwch eu defnyddio fel gwiriwr ac awgrymu gwirwyr sy’n lleol i chi. Cliciwch yma i weld pa wybodaeth adnabod sy’n ddilys.
- Ar ôl i chi lenwi cais ar-lein, fe gaiff ei brosesu a byddwch yn derbyn eich tystysgrif DBS yn y post. Ar ôl i UKA dderbyn copi electronig o’ch tystysgrif DBS bydd eich trwydded yn cael ei pharatoi a’i hanfon i chi.
Y Broses Wirio
Yr ymgeisydd:
- mae’n bosib i chi ddewis gwiriwr lleol ar-lein.
- Os nad oes modd i chi ddefnyddio’r system ar-lein i wneud cais, cysylltwch â thîm Lles UKA ar 0121 713 8450 neu anfonwch e-bost i: dbs@uka.org.uk
Y gwiriwr:
- Os bydd yr ymgeisydd yn dewis e-bostio’r cais, byddwch yn derbyn e-bost a fydd yn eich hysbysu eich bod wedi eich enwebu fel gwiriwr yr ymgeisydd.
- Bydd yr e-bost yn eich cysylltu i dudalen wirio’r ymgeisydd. Mae’r ddolen hon yn aros yn fyw hyd nes y byddwch wedi cwblhau ac anfon y ffurflen wirio ar-lein.
- Bydd angen i chi weld tri math o wybodaeth adnabod yn eich swyddogaeth fel gwirydd tystiolaeth. Ar ôl i chi gwblhau eich gwiriadau a phan fyddwch yn sicr ynglŷn â hunaniaeth yr ymgeisydd, llenwch y dudalen wirio ac anfonwch y ddogfen ar-lein.
Ceisiadau am wiriad ar bapur:
Rhaid i’r ymgeisydd anfon y ffurflen gais am wiriad argraffedig gyda’u dogfennau adnabod i’r gwiriwr lleol. Ar ôl iddynt gael eu gwirio, rhaid i’r ymgeisydd wedyn anfon eu ffurflen i ‘Athletics Welfare, PO Box 332, Sale, Manchester, M33 6XL’. Bydd UKA wedyn yn cwblhau’r broses wirio.
Dolenni diddorol
Tudalennau yn yr adran hon a allai fod o ddiddordeb.